Neidio i'r prif gynnwy

Therapi gyda chymorth MDMA ar gyfer PTSD

Dr Mat Hoskins oedd y Prif Ymchwilydd ar gyfer astudiaeth label Agored Cam 2 o therapi gyda chymorth MDMA ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a driniodd y claf cyntaf yng Nghymru â’r dull newydd hwn y llynedd. Ymunodd y cyd-therapyddion ag ef, Dr Neil Kitchener, Dr Julie Dorey a Miss Chrissie Wilson. Cafodd yr astudiaeth ei noddi gan Gymdeithas Amlddisgyblaethol Astudiaethau Seicedelig (MAPS), a grŵp eiriolaeth ymchwil dielw Americanaidd a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi maes o law. 

Mae ymchwil diweddar wedi canfod bod therapi â chymorth MDMA yn ymyriad diogel ac effeithiol ar gyfer PTSD difrifol, ond mae'n parhau i fod yn gyffur cyfyngedig iawn. Gobeithiwn y bydd ymchwil sy’n cael ei wneud yng Nghaerdydd ac yn ein chwaer safleoedd ar draws yr UE yn gwella ansawdd yr ymchwil sy’n ymchwilio i’r dull triniaeth newydd hwn.

Sylwch, ni allwn ymateb i ddatganiadau o ddiddordeb mewn ymchwil yn y dyfodol.