Neidio i'r prif gynnwy

Amenedigol

Mae'r llif gwaith amenedigol yn gweithio i wella’r mynediad at therapïau seicolegol effeithiol seiliedig ar dystiolaeth i bobl sy'n cael profiadau trawmatig ac yn ofni rhoi genedigaeth yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae'n gwneud hyn mewn cydweithrediad ag arweinwyr y bwrdd iechyd a'r grŵp llywio iechyd meddwl amenedigol. Ymhlith aelodau’r grŵp mae ymwelwyr iechyd, bydwragedd, staff newyddenedigol a phobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac mewn gwasanaethau iechyd.

Rydyn ni’n datblygu llwybr trawma amenedigol sydd wedi ei seilio ar egwyddorion gofal sy'n seiliedig ar drawma. Rydyn ni’n datblygu prosesau mwy effeithiol o drosglwyddo rhwng gwasanaethau sy’n rhan o’r llwybr, yn ogystal â gwella gallu gwasanaethau iechyd arbenigol ac anarbenigol i ddarparu ymyriadau effeithiol sy'n diwallu anghenion unigolion.

Bydd rhagor o wybodaeth am waith y llif gwaith asesu a chanlyniadau yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon unwaith y bydd ar gael.