Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau penodol am Straen Trawmatig Cymru (TSW), gallwch anfon e-bost atom yn y cyfeiriad isod.
Nodwch, rydyn ni’n wasanaeth gwella ansawdd cenedlaethol a dydyn ni ddim yn darparu gofal clinigol uniongyrchol i gleifion. O ganlyniad, gallwn ni ddim cynnig cyngor meddygol, seicolegol na gwasanaethau cymdeithasol i unigolion sydd wedi cael diagnosis o PTSD neu CPTSD neu sydd mewn perygl o ddioddef PTSD neu CPTSD. Gallwn ni ddim cofnodi na phrosesu cwynion am wasanaethau lleol ychwaith. Y ffordd orau o wneud hyn yw cysylltu â'ch meddyg teulu lleol neu eich gwasanaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn y lle cyntaf, neu fynd i’r dudalen gwynion ar wefan eich Bwrdd Iechyd Lleol.
Byddwn ni’n anelu at gysylltu â chi o fewn 5-7 diwrnod gwaith.
E-bost: CTM.TraumaticStress@wales.nhs.uk
Weithiau mae angen help arnom ni mewn argyfwng. Dydy TSW ddim yn wasanaeth iechyd meddwl brys, ond gallwch chi gael gafael ar y cymorth canlynol
Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Gallwch chi hefyd gael cymorth mewn argyfwng trwy eich meddyg teulu.
C.A.L.L.
Llinell gymorth iechyd meddwl yw C.A.L.L. (Llinell Gyngor a Gwrando Cymunedol)
Rhadffôn 0800 132737 neu tecstiwch HELP i 81066 (24/7)
Y Samariaid
Gall gwirfoddolwr o’r Samariaid wrando a chynnig cyngor cyfrinachol am ddim a chefnogaeth emosiynol.
Rhadffôn 116 123 (24/7)
Cymraeg 0808 1040123 (7pm-11pm)