Yn anffodus, mae digwyddiadau trawmatig yn gyffredin ac yn effeithio ar bobl o bob oed. Mewn arolwg o 4,558 o oedolion sy'n byw ym Mwrdeistref Sir Caerffili [1], dywedodd 47% eu bod nhw wedi cael profiad o ddigwyddiad trawmatig mawr. Pan ofynnwyd beth oedd y digwyddiad trawmatig gwaethaf iddynt gael profiad ohono, cafwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau; mae’r rhai mwyaf cyffredin i’w gweld yn y tabl isod.
Mae pob un o'r digwyddiadau yn y tabl yn gallu achosi trallod amlwg ac mae’n bosib y bydd rhai’n datblygu cyflwr iechyd meddwl yn sgil hynny. Mae digwyddiad trawmatig yn gwneud pobl yn fwy agored i’r rhan fwyaf o gyflyrau iechyd meddwl, ac mae hyn yn ofyniad er mwyn cael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pa ddigwyddiadau trawmatig sy’n gallu arwain at Anhwylder Straen Wedi Trawma, ond mae ysgaru a gwahanu’n enghreifftiau o ddigwyddiadau sydd ddim yn gallu arwain at hwn, er y gallan nhw fod yn drawmatig iawn i'r rheiny sy’n eu hwynebu.
Rhestrodd tua hanner trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, ddywedodd eu bod wedi wynebu trawma, mai’r digwyddiad gwaethaf iddynt gael profiad ohono oedd un sy’n gymwys i gael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma. Marwolaeth rhiant (18.6%) oedd y digwyddiad mwyaf cyffredin sydd ddim yn gymwys.
[1] White J, Pearce J, Morrison S, Dunstan F, Bisson JI, Fone DL. (2015) Perygl o Anhwylder Straen Wedi Trawma yn dilyn Digwyddiadau Trawmatig mewn Sampl Gymunedol. Epidemioleg a Gwyddorau Seiciatryddol , 24, 249-257.