Neidio i'r prif gynnwy

Cystadleuaeth Logo / Arloesi

Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio logo Straen Trawmatig Cymru a chawsom ni sawl cais gan y Rhaglen Arloesi.

Mae ei phrosiect ieuenctid, y Prosiect Arloesi, yn ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn benodol ar gyfer pobl ifanc agored i niwed gydag anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, sydd ar hyn o bryd wedi ymddieithrio o addysg brif ffrwd.

Alex Taylor-Madey, 14 oed
'I mi, mae straen fel cael eich maglu, fel bod mewn cyffiau llaw a cheisio dod yn rhydd.'

 

 

 

Lola Roberts, 15 oed
'I mi, mae straen trawmatig fel cario pwysau'r byd ar eich ysgwyddau ar eich pen eich hun heb unrhyw gefnogaeth, a’r cyfan sydd ei eisiau yw help.'

 

 

 

Jordan Mason, 16 oed
'Mae fy nyluniad o straen yn ymwneud â rhywun sy’n teimlo fel ei fod yn cario carreg fawr, a gallai ei gollwng unrhyw bryd. Bydd hyn yn gallu achosi mwy o boen os na fyddwch chi’n cael yr help sydd ei angen.'

 

 

Kingston Bright, 16 oed
'Mae fy nyluniad yn ymwneud â theimlo dan straen. Mae fel eich bod chi'n hongian ar wal frics enfawr ac yn gwneud pob ymdrech i ddringo drosti a goresgyn y straen.'

 

 

 

Jamaine Ford, 16 oed
'I mi, mae straen trawmatig yn golygu teimlo ar eich pen eich hun ac yn sownd, fel bod mewn twll dwfn yn aros am rywun i’ch tynnu chi allan. Mae’r GIG yn gallu rhoi cymorth i chi a'ch cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnoch.'

 

 

 

Dyma rai o’r dyluniadau eraill gafodd eu cyflwyno: