Neidio i'r prif gynnwy

Cael Cymorth

Os ydych chi’n credu bod Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) neu Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) gyda chi, mae'n bwysig gofyn am help. Mae’n bosib y byddwch chi’n elwa o gymorth a thriniaeth.  Fel arfer, eich meddyg teulu sydd orau i fynd ato i ddechrau.  Bydd eich meddyg teulu yn gallu holi cwestiynau i chi er mwyn cael gwybod a fyddwch chi'n debygol o elwa o driniaeth a/neu fathau eraill o gymorth.  Yna, bydd eich meddyg teulu’n gallu cynnig triniaeth i chi, eich atgyfeirio neu eich cyfeirio chi yn ôl eich anghenion a beth hoffech chi ei wneud fel y cam nesaf.

Os ydych chi eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau, mae trafodaeth â rhywun sydd eisoes yn gofalu amdanoch chi’n gam da i ddechrau fel arfer.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n poeni bod symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) neu Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) gyda rhywun rydw i'n ei adnabod?

Yn aml, bydd hyn yn dibynnu ar ba mor dda rydych chi'n adnabod yr unigolyn a natur eich perthynas.  Fel arfer, mae’n ddefnyddiol codi eich pryderon mewn modd cydymdeimladol a chefnogol os yw’n bosib.  Os ydych chi'n teimlo bod modd i chi drafod eich pryderon yn well â'r unigolyn hwn, yn aml mae'n ddefnyddiol gwneud hyn gyda gwybodaeth sy'n dangos pam eich bod chi'n pryderu, er enghraifft taflen am Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Mae triniaethau effeithiol ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth ar gael, felly dylai unrhyw un gyda'r cyflyrau hyn ofyn am gymorth. Fel arfer, y meddyg teulu sydd orau i fynd ato i ddechrau. Bydd yn gallu cynnal asesiad a rhoi cyngor i chi ynghylch y camau nesaf posib.  Does dim modd gorfodi rhywun i weld y meddyg teulu, ac weithiau mae'n cymryd sbel cyn i rywun deimlo'n barod i fynd i weld y meddyg teulu.  Mae hyn yn aml yn fwy tebygol o ddigwydd gyda chymorth ac anogaeth ysgafn gan y rheiny o'i gwmpas.

Os ydy unigolyn eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau, mae trafodaeth â rhywun sydd eisoes yn gofalu amdano’n gam da i ddechrau fel arfer.