Mae profi neu weld digwyddiad(au) trawmatig yn gyffredin ac mae hyn yn gallu cael effaith negyddol barhaol ar iechyd a lles babanod, plant, pobl ifanc ac oedolion.
Fodd bynnag, mae’n bosib gwella ac mae ein gwefan a'n gwasanaeth gerllaw i'ch helpu chi ac i'ch tywys chi drwy’r broses o wella.
Beth mae Straen Trawmatig Cymru am ei gyflawni?
Ein nodau:
- Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o drawma ac effaith trawma ar bobl o bob oed.
- Gwella ein gallu i adnabod symptomau 'straen trawmatig' ymhlith pobl o bob oedran.
- Mae Straen Trawmatig Cymru am ledaenu’r neges obeithiol fod gwella o straen trawmatig yn gyffredin ac yn bosib.
- Creu adnoddau defnyddiol er mwyn i unigolion fagu gwytnwch.
- Creu adnoddau defnyddiol ar gyfer rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr rheng flaen sy’n gallu helpu gyda'r broses o wella.
- Datblygu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, er mwyn sicrhau bod unrhyw un mae angen cymorth arbenigol arnynt ar gyfer trawma’n gallu cael y cymorth hwn, a sicrhau bod y driniaeth arbenigol maen nhw’n ei chael yn effeithiol (yn ôl yr ymchwil a chanllawiau diweddar).
- Mae Straen Trawmatig Cymru am wneud yn siŵr fod yr adnoddau a'r wybodaeth yn glir, yn gyfredol, yn gywir ac yn ddefnyddiol.
Sut mae Straen Trawmatig Cymru’n bwriadu cyflawni'r nodau hyn?
- Creu a datblygu pob agwedd ar y fenter mewn partneriaeth â sefydliadau ac asiantaethau eraill ledled Cymru, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynllunio ac yn datblygu gwasanaethau ac adnoddau ar y cyd.
- Bydd yr adnoddau'n cael eu datblygu gyda phobl (o bob oed) sydd wedi cael profiad personol o drawma a straen trawmatig, er mwyn i ni wneud yn siŵr fod yr adnoddau'n ddefnyddiol ac yn berthnasol a’i bod hi’n hawdd cael gafael arnynt.
- Datblygu gwefan (ar gyfer pob oedran) gyda gwybodaeth, adnoddau a chyngor ynghylch pryd a sut i gael cymorth ar eich cyfer chi neu rywun arall.
- Pan fydd angen cymorth trawma arbenigol ar rywun, mae Straen Trawmatig Cymru am sicrhau bod y driniaeth sy’n cael ei darparu’n ddefnyddiol, yn effeithiol ac yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf. Mae'n bwysig felly ein bod ni’n cadw data sy'n mesur pa mor fodlon yw pobl â'r gwasanaeth maen nhw’n ei gael, a chofnodi nodau personol ac unrhyw newid mewn symptomau straen trawmatig. Bydd hyn yn helpu Straen Trawmatig Cymru i barhau i ddatblygu a llywio gwasanaethau trawma ac arfer gorau yn y dyfodol.