Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin rhywiol

Grŵp Cymru gyfan yw'r llif gwaith cam-drin rhywiol, sy'n cynnwys pobl sy'n gweithio mewn Canolfannau Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol (SARCs) ac mewn gwasanaethau eraill sy'n darparu gofal a chymorth i bobl sydd wedi dioddef trawma rhywiol. Nod y grŵp yw datblygu llwybrau gofal trawma effeithiol ar draws pob bwrdd iechyd, sydd wedi eu cydgysylltu a'u hintegreiddio ar draws gwasanaethau. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy weithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau iechyd, sefydliadau gwirfoddol a gwasanaethau statudol. Rydyn ni’n datblygu fframweithiau cymhwysedd fydd yn hybu mentrau hyfforddi ar gyfer staff rheng flaen ac er mwyn darparu therapïau trawma.

Bydd rhagor o wybodaeth am waith y llif gwaith asesu a chanlyniadau’n cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon unwaith y bydd ar gael.