Neidio i'r prif gynnwy

Atal

Mae nifer o ddulliau pragmatig sy'n debygol o helpu babanod, plant a phobl ifanc ar ôl digwyddiad trawmatig. Mae presenoldeb oedolyn diogel a rhagweladwy sy’n mynnu rheolaeth yn allweddol.

Mae ail-gyflwyno arferion o ran amser bwyd a chysgu yn gallu bod yn galonogol ac yn gallu rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a diogelwch i berson ifanc.  Mae annog cysylltiadau cymdeithasol ymhlith aelodau'r teulu a'r teulu estynedig yn bwysig, yn ogystal â chadw cysylltiad â chymunedau crefyddol, cymunedau ysgol a grwpiau ieuenctid.

Mae'n ddefnyddiol mabwysiadu dull o wrando'n weithredol ar blentyn neu berson ifanc a gwerthfawrogi hunaniaeth ddiwylliannol person ifanc yn rhan o'r broses o wella.

Mae’n bosib y bydd cyfnod o “fonitro gweithredol” yn ystod y mis cyntaf yn briodol er mwyn gweld a ydy’r symptomau'n gwella'n naturiol ai peidio ac er mwyn galluogi gweithwyr proffesiynol i dargedu plant a'r bobl ifanc gyda symptomau trawmatig niweidiol er mwyn iddyn nhw gael cymorth pwrpasol.