Sut mae trawma'n effeithio ar yr ymennydd wrth iddo ddatblygu:
Mae profiadau trawmatig yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod 4 blynedd gyntaf bywyd plentyn yn gallu effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd a chael effaith sylweddol ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ddiweddarach. Gall yr effeithiau hyn barhau yn ystod bywyd fel oedolyn hefyd.
Yn ystod 8 wythnos gyntaf ei fywyd, mae baban yn arbennig o agored i effeithiau profiadau trawmatig ac yn enwedig effeithiau trawma cymhleth.
Yn bwysicach fyth na'r profiad o drawma mae presenoldeb oedolion ymddiriedus, presennol, gofalgar a diogel (ar adeg y trawma) sy'n gallu diogelu’r baban rhag effeithiau'r digwyddiad(au) trawmatig.
Pan fydd baban, plentyn neu berson ifanc yn profi neu'n gweld digwyddiadau trawmatig sy'n bygwth bywyd neu'n codi ofn, mae'r ymennydd yn addasu er mwyn goroesi. Mae profiadau cadarnhaol yng nghwmni oedolion diogel, meithringar a chyson yn gallu helpu yn ystod datblygiad cynnar yr ymennydd, tra bod profiadau negyddol yn niweidio datblygiad arferol yr ymennydd.
Er mwyn deall sut mae trawma yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd, mae'n ddefnyddiol deall sut mae ymennydd babanod yn datblygu. Mae modd rhannu'r ymennydd yn dair rhan ac mae'r ymennydd yn datblygu o'r 'gwaelod i fyny':-
Er mwyn i ymennydd allu gweithio'n effeithiol, mae angen i bob rhan o'r ymennydd gyfathrebu o waelod yr ymennydd i rannau uchaf yr ymennydd, a hefyd rhwng ochr chwith ac ochr dde'r ymennydd.
Pan fydd rhan isaf yr ymennydd, sy'n gyfrifol am oroesi, yn cael ei hysgogi dro ar ôl tro a'i hymestyn yn ystod plentyndod cynnar, mae hyn yn gallu lleihau'r cysylltiadau rhwng rhannau eraill o'r ymennydd. Gall hyn effeithio'n sylweddol ar ein gallu i ddysgu, i ffurfio atgofion, i reoli emosiynau, yn ogystal â’n gallu i fod yn dawel, i ddysgu, i feddwl, i fyfyrio ac i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd bwyllog.
Yn ôl ymchwil, mae rhan o gortecs cyndalcennol oedolion gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), yn ogystal â gallu eu hipocampws, yn dirywio. Heb y mecanweithiau rheoli hyn, gall oedolion gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma deimlo bod straen a gorbryder yn mynd yn drech na nhw, hyd yn oed pan na fydd unrhyw berygl gwirioneddol. Hefyd yn ôl ymchwil, gallai amygdala oedolion gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma orweithio (bydd hyn yn arwain at ddychryn yn haws a mwy o noradrenalin yn cael ei ryddhau i'r corff).
Wrth iddo ddatblygu, mae’r ymennydd yn cofio digwyddiadau trawmatig a phrofiadau o gam-drin, felly mae’n bosib sbarduno ymateb o oroesi hyd yn oed pan na fydd perygl. Gall hyn ymddangos fel ymddygiadau ac ymatebion sy’n ymwneud ag ymladd, ffoi neu rewi. Ar ôl trawma, mae rhan isaf yr ymennydd yn tueddu i fod yn drechaf, a thros amser mae’r ymennydd yn gallu dod yn fwyfwy sensitif i fygythiad gwirioneddol a ffug-fygythiad.
Drwy wybod mwy am y niwrowyddoniaeth y tu ôl i'r newidiadau yn yr ymennydd yn sgil trawma, mae hyn yn ein helpu ni i ddeall a dehongli ymddygiad babanod, plant a phobl ifanc. Yn ogystal â hynny, mae’n helpu i dywys pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr rheng flaen o ran pa ddulliau a thriniaethau sy'n ddefnyddiol ac yn effeithiol er mwyn helpu i wella.
Mae pob cyswllt â baban, plentyn neu berson ifanc, waeth pa mor fyr, yn gyfle gwerthfawr i gael effaith gadarnhaol ar allu plentyn i wella. Mae cyfleoedd lu bob dydd i effeithio’n gadarnhaol ar les emosiynol plentyn neu berson ifanc ac i helpu i feithrin gwydnwch a’i helpu i wella.
Pryd a sut i ofyn am gymorth:
Mae'n bwysig gwybod pryd i ofyn am gymorth a sut i gael cymorth pwrpasol neu arbenigol ychwanegol er mwyn helpu i wella (gweler y tab ‘Cael cymorth’ am fwy o wybodaeth).