Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a gwella

Erbyn hyn, o ganlyniad i ymchwil, mae tystiolaeth glir ynghylch pa ymyriadau i’w cynnal yn fuan ar ôl digwyddiadau trawmatig er mwyn atal Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a pha ymyriadau i’w cynnal er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau o ran triniaeth.  Yn ogystal â hynny, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg ynglŷn â'r ymyriadau gorau i drin Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD).  Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r ddau gyflwr hyn ac o'r ffordd orau i helpu pobl gyda’r cyflyrau.  Mae gwaith i'w wneud hefyd er mwyn sicrhau bod pobl ledled Cymru gyda’r cyflyrau hyn, neu sydd mewn perygl o’u datblygu, yn gallu cael gofal ar sail tystiolaeth mewn modd amserol.

Mae Straen Trawmatig Cymru wedi ymrwymo i gynnal gwaith ymchwil a gwella ansawdd er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth, capasiti a gallu, ac er mwyn gwella iechyd a lles pobl o bob oed sy’n byw yng Nghymru gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma neu Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth, neu sydd mewn perygl o’u datblygu. Bydd addysg a hyfforddiant, ymchwil a datblygu, archwilio clinigol a methodoleg gwella yn cael eu defnyddio er mwyn ysgogi system gynyddol effeithiol sy'n dysgu'n barhaus.

Mentrau gwella Straen Trawmatig Cymru

  • Datblygu fframwaith gwella ansawdd sy'n cyflwyno system llywodraethu clinigol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy'n gysylltiedig â diogelwch a gwella ansawdd, er mwyn darparu dull Cymru gyfan sy'n gwella drwy’r amser.
  • Bydd set ddata sylfaenol genedlaethol yn cael ei chasglu a'i dadansoddi’n rheolaidd er mwyn monitro a hwyluso’r gwaith o wella gwasanaethau yn erbyn safonau.
  • Datblygu deunyddiau Cymru gyfan, prosesu ac adrodd data, meincnodi, hyfforddi a goruchwylio.
  • Diweddaru argymhellion Matrics Cymru ar gyfer triniaeth seicolegol pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth a hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r rhain.
  • Rhagnodi canllawiau meddyginiaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth.