Yr Athro Jon Bisson (BM FRCPsych, DM, Dip Clin Psychother) yw Cyfarwyddwr Straen Trawmatig Cymru. Mae'n seiciatrydd sy’n ymarfer, yn Athro Clinigol Seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol, sef menter genedlaethol sy’n rhoi cymorth i’r staff sy'n gweithio yn GIG Cymru. Mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac mae’n arwain ffrwd waith datblygu ymyrraeth y Ganolfan. Mae Jon wedi cynnal llawer o astudiaethau ymchwil sydd wedi dylanwadu ar ymchwil ac ymarfer yn y maes straen trawmatig. Roedd yn gyd-gadeirydd Grŵp Datblygu Canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma, sef y grŵp cyntaf o’r fath yn y DU, ac mae’n cadeirio Pwyllgor Canllawiau Triniaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Straen Trawmatig. Datblygodd GIG Cymru i Gyn-filwyr ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac ef oedd cyfarwyddwr cyntaf y gwasanaeth.
Mae Dr Thomas Hoare (BSc, MSc, D.Clin.Psy) yn Seicolegydd Clinigol ac yn Arweinydd Therapïau Seicolegol ar gyfer ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc a ffrwd waith Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches gyda Straen Trawmatig Cymru. Ac yntau wedi hyfforddi yn Llundain ac yng Nghymru, mae gan Thomas brofiad o’r maes clinigol a maes ymchwil yn y GIG (wrth weithio mewn gwasanaethau fforensig a gwasanaethau iechyd meddwl plant a theuluoedd), yn ogystal ag yn y trydydd sector. Mae hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio mewn sefyllfaoedd o argyfwng dyngarol, yn asesu anghenion iechyd meddwl ac yn datblygu gwasanaethau cymorth seicogymdeithasol ledled Affrica a'r Dwyrain Canol. Mae wedi ysgrifennu nifer o bapurau academaidd ac adroddiadau meddygol-gyfreithiol ym maes iechyd meddwl ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae'n frwdfrydig am hybu datblygiad gwasanaethau i bobl y mae trawma yn effeithio arnynt.
Mae Dr Alice Plummer (CPsychol AFBPsS, DClinPsy, PGDip, BSc Anrh) yn Seicolegydd Clinigol ac yn Arweinydd Therapïau Seicolegol ar gyfer Oedolion gyda Straen Trawmatig Cymru. Mae gan Alice brofiad helaeth o weithio gydag oedolion o bob oed mewn ystod o wasanaethau a lleoliadau, sy’n arddangos trawma a lefelau uchel o ofid seicolegol, symptomau sy’n peri pryder a chyflyrau iechyd corfforol hirdymor cydafiach. Mae Alice hefyd yn ymarferydd achrededig EMDR Europe, ac mae ganddi ddiploma ôl-raddedig mewn cwnsela. Bu’n nyrs plant sâl cyn dod yn seicolegydd clinigol, ac mae ganddi arfer hirsefydlog o ofal tosturiol a gweithio amlddisgyblaethol. Mae Alice yn angerddol iawn am ymarfer sy’n seiliedig ar drawma a gwella profiad pobl sydd wedi eu heffeithio gan drawma, gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr trwy brofiad o fewn tirwedd aml-randdeiliad, a gweithio ar lefel systemig o fewn cymunedau ymarfer.
Dr Dave Williams (BM, MSc, FRCPsych) yw Cynghorydd Annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Mae hefyd yn Gadeirydd Plant yng Nghymru ac yn aelod o Gyngor Trawma'r DU. Yn ogystal â hynny, mae Dave yn Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc yn y Tîm Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc yn ne-ddwyrain Cymru. Mae wedi datblygu gwasanaethau amlasiantaeth integredig gydag awdurdodau lleol, maes addysg, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn ne-ddwyrain Cymru. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae ei waith o astudio goroeswyr Aberfan 30 mlynedd ar ôl y drychineb.