Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio

Bydd archwilio clinigol yn rhan allweddol o ddull Straen Trawmatig Cymru o wella ansawdd. 


Yn seiliedig ar waith Canolfan Gwella Ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, bydd model archwilio clinigol yn cael ei ymgorffori i mewn i rwydwaith adolygu gan gymheiriaid. Bydd y rhwydwaith yn cytuno ar safonau gwasanaeth er mwyn darparu sicrwydd a gwelliant. Bydd pob bwrdd iechyd yn cael archwiliad blynyddol ar eu safle. Bydd hwn yn cael ei gynnal gan aelod arall o'r rhwydwaith, a bydd gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio er mwyn lledaenu arfer da ledled Cymru.
 

Bydd manylion gweithgareddau archwilio yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon pan fyddan nhw ar gael.