Neidio i'r prif gynnwy

Carchardai a chyfiawnder troseddol

 

Mae llif gwaith y carchardai a chyfiawnder troseddol yn arwain y gwaith o ddatblygu llwybr gofal trawma effeithiol ar gyfer pobl yn y system gyfiawnder troseddol neu bobl yn y ddalfa yng Nghymru. Mae hyd at 90% o’r rheiny yn y carchar neu yn y system gyfiawnder troseddol wedi cael profiad o gamdriniaeth neu drawma yn ystod plentyndod. Fodd bynnag, maen nhw’n wynebu sawl rhwystr rhag cael triniaethau effeithiol ar gyfer straen trawmatig.

Mae'r llif gwaith yn cynnwys pobl sy'n gweithio mewn carchardai yng Nghymru a'r uned breswyl newydd i fenywod, yn ogystal â'r Gwasanaeth Prawf, gwasanaethau iechyd, y sectorau gwirfoddol ac iechyd y cyhoedd. Bydd y llif gwaith yn meithrin gallu carchardai i nodi ac asesu straen trawmatig, ac i wella’r mynediad at therapïau seicolegol effeithiol. Bydd yn helpu i hyfforddi staff rheng flaen mewn ymarfer sydd wedi ei lywio gan drawma, a bydd yn helpu i ryddhau unigolion yn ôl i wasanaethau cymunedol yn effeithiol. Bydd y llif gwaith hefyd yn datblygu cysylltiadau ymchwil i sicrhau bod y llwybr yn cael ei werthuso.

Bydd rhagor o wybodaeth am waith y llif gwaith asesu a chanlyniadau yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon unwaith y bydd ar gael.