Neidio i'r prif gynnwy

Asesu a Chanlyniadau

Mae llif gwaith asesu a chanlyniadau Straen Trawmatig Cymru wedi cael ei sefydlu i ddatblygu'r canlynol:
  • Safonau asesu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Rhan 1 a Rhan 2

  • Set ddata sylfaenol genedlaethol, gan gynnwys mesurau canlyniadau craidd

  • System ganolog addas i’r diben ar gyfer dadansoddi data, adrodd data a meincnodi yn erbyn dangosyddion y cytunwyd arnynt (gan gynnwys profiad defnyddwyr gwasanaeth)

  • Model archwilio clinigol sydd wedi ei wreiddio mewn rhwydwaith adolygu cymheiriaid

Mesurau canlyniadau craidd

Mae set gytûn o fesurau canlyniadau craidd ar gyfer oedolion yn cael ei threialu ar hyn o bryd. Diben y mesurau yw bod yn gryno, yn syml i'w gweinyddu a'u graddio, a bod o gymorth i'r unigolyn, i’r clinigwr ac i'r gwasanaeth.  Maen nhw’n cwmpasu'r tri chlwstwr sydd wedi eu nodi yn fframwaith Cymru gyfan, gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar, ar gyfer defnyddio offer canlyniadau’n rheolaidd mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu.

Gwelliant yn fy lles 

ITQ – International Trauma Questionnaire (18 o eitemau)

CORE-OM – Clinical Outcomes in Routine Evaluation (fersiwn 34 o eitemau)

WSAS – Work and Social Adjustment Scale (5 eitem)

Gallu gosod a chyflawni fy nodau / canlyniadau fy hun 

GBO – Goal Based Outcome Tool (3 eitem)

Fy mhrofiad a boddhad 

CSQ-8 – Client Satisfaction Questionnaire (fersiwn 8 eitem)

Bydd rhagor o wybodaeth am waith y llif gwaith asesu a chanlyniadau’n cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon unwaith y bydd ar gael.