Neidio i'r prif gynnwy

Atal

Mae modd cymryd nifer o gamau cadarnhaol iawn i leihau'r risg o ddatblygu canlyniadau iechyd meddwl negyddol ar ôl digwyddiadau trawmatig.  Mae'r rhain yn cynnwys bwyta'n iach, cynnal perthnasoedd cymdeithasol, ymarfer corff yn rheolaidd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eich helpu i ymlacio. 

Mae tystiolaeth bod cymorth cymdeithasol da yn gallu lleihau’r risg ar ôl cael profiad o ddigwyddiad trawmatig.  I bobl sy'n datblygu symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), mae rhai ymyriadau cynnar, gan gynnwys Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), gyda ffocws ar drawma a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid, yn gallu helpu i wella symptomau.