Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw trawma?

Trawma yn ystod plentyndod
Beth yw digwyddiadau trawmatig?

Mae llawer o fathau o ddigwyddiadau trawmatig. Gallai’r rhain fod yn ddigwyddiadau untro neu'n ddigwyddiadau rheolaidd.

Yn ystod plentyndod, mae digwyddiadau trawmatig yn digwydd pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc yn gweld neu’n cael profiad o farwolaeth, digwyddiad y bu bron iddo arwain at farwolaeth, anaf difrifol neu drais rhywiol.

Gallai’r digwyddiad fod yn drychineb naturiol neu ddamweiniol, yn rhyfel, yn derfysgaeth, yn ymosodiad corfforol neu’n unrhyw fath o achos o esgeuluso neu gam-drin plant. Mae marwolaeth sydyn anwylyd, trais ac ymosodiad rhywiol (gan gynnwys masnachu), trawma ffoaduriaid ac aelod o’r teulu’n diflannu, colled sy’n ymwneud â theulu milwrol (fel pan fydd aelod o’r teulu’n gadael i wasanaethu yn y fyddin, neu pan fydd rhiant yn marw neu’n cael ei anafu), i gyd yn gallu bod yn ddigwyddiadau trawmatig.

Mae’n bosib ystyried y rhain yn ddigwyddiadau trawmatig hefyd: achos personol neu deuluol o gamddefnyddio sylweddau, trais mewn teuluoedd a chymunedau ac anafiadau damweiniol difrifol, gan gynnwys damweiniau traffig ar y ffordd, achosion o foddi, llosgi neu gwympo.

Hefyd, mae’n bosib cael profiad o ddigwyddiadau trawmatig trwy wrando ar brofiadau trawmatig pobl eraill (enw arall ar hyn yw trawma eilaidd, trawma mechnïol neu flinder tosturi).

Y digwyddiadau trawmatig sy’n tueddu i gael y canlyniadau negyddol mwyaf yw’r rheiny sy’n gysylltiedig â thrawma rhyngbersonol (o berson i berson) neu drawma bwriadol. Mae hyn yn cynnwys cam-drin ac esgeuluso yn ystod plentyndod.

Enw arall ar ddigwyddiadau/profiadau trawmatig ailadroddus dros gyfnod hir yn ystod plentyndod cynnar yw trawma cymhleth neu drawma datblygiadol. Termau yw’r rhain sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio’r math o ddigwyddiadau trawmatig. Dydyn nhw ddim yn fathau o ddiagnosis.

Fel arfer, mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau’n digwydd ymhlith perthnasoedd presennol plentyn ac ar adeg pan fydd yr ymennydd ifanc yn datblygu. Enghreifftiau o hyn yw cam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol, esgeulustod, colled neu achos o adael plentyn. Ymhlith enghreifftiau eraill, mae’r rheiny allai ddigwydd yn sgil profiad cronig, rheolaidd a difrifol o drais cymunedol, trawma hiliol, trawma ffoaduriaid neu drawma rhyfel. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfres o amgylchiadau rheolaidd, o berson i berson, a phan na fydd anghenion emosiynol baban neu blentyn yn cael eu diwallu.

Mae profiadau trawmatig yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod 4 blynedd gyntaf bywyd plentyn yn gallu effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd a chael effaith sylweddol ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ddiweddarach. Gall yr effeithiau hyn barhau yn ystod bywyd fel oedolyn hefyd. Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r ymennydd yn datblygu fel arfer, yn ogystal ag effaith trawma arno wrth iddo ddatblygu.

Mae profi digwyddiadau trawmatig rheolaidd dros gyfnod hir yn gallu effeithio ar berthnasoedd a datblygiad hunaniaeth bersonol.

Pan fydd baban neu blentyn yn cael ei fagu mewn amgylchedd o ofn ac esgeulustod, bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar ei allu i greu perthnasoedd ag oedolion priodol a diogel yn y dyfodol. Mae’n effeithio hefyd ar ei allu i ddatblygu hunaniaeth bersonol (sef ymdeimlad o bwy ydyn ni, pa fath o berson ydyn ni ac o le rydyn ni’n dod). Mae’n bosib na fydd barn gadarnhaol ohonyn nhw eu hunain gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi cael profiad o drawma, a gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y ffordd maen nhw’n meddwl, eu hymddygiad a’u penderfyniadau mewn bywyd.

Mae profiadau o drawma’n gyffredin.

Mae 1 o bob 3 o blant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr wedi cael profiad trawmatig cyn troi’n 18 oed ac mae 1 o bob 4 o’r rheiny wedi datblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) erbyn 18 oed.