Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant diogelwch a sefydlogi

Mae Straen Trawmatig Cymru’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Partneriaeth Ardal Caerdydd a'r Fro i dreialu rhaglen hyfforddi'r hyfforddwr ar gyfer staff rheng flaen sy'n rhoi cymorth i bobl o ran camddefnyddio sylweddau a digartrefedd.

Mae'r rhaglen wedi cael ei chyd-ddatblygu a'i chyd-gyflwyno gyda phobl sydd â phrofiad byw. Cafodd ei chynllunio er mwyn gwella arferion staff rheng flaen trwy ddatblygu sgiliau diogelwch emosiynol a sefydlogi ar gyfer trawma. Mae carfan o 22 o hyfforddwyr wedi cael eu hyfforddi gan glinigwyr o Straen Trawmatig Cymru ac Uned Caethiwed Gymunedol Caerdydd a'r Fro. Ar ôl cwblhau cam cyntaf hyfforddi’r hyfforddwyr yn llwyddiannus, bydd yr holl staff rheng flaen sy'n gweithio mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a digartrefedd yn cael hyfforddiant, a byddan nhw hefyd yn rhan o grwpiau ymarfer myfyriol yn eu sefydliadau. Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion yn cael dull cyson gan bob gwasanaeth sy’n rhoi cymorth iddynt, a hynny drwy gydol eu proses o wella.

Rydyn ni’n credu y bydd y model hyfforddi a phartneriaeth hwn yn helpu i ddatblygu gweithlu cynaliadwy a meithrin capasiti ar draws sectorau a gwasanaethau. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddatblygu llwybrau trawma effeithiol ledled Cymru.