Neidio i'r prif gynnwy

Hunangymorth dan arweiniad

Un o feysydd allweddol Straen Trawmatig Cymru o ran ymchwil a gwella yw datblygu, gwerthuso a chyflwyno ymyriadau effeithiol ar gyfer hunangymorth dan arweiniad.

Ar hyn o bryd, y triniaethau cyntaf ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yw triniaethau siarad â’r unigolion sy'n para rhwng 12 a 16 awr. Oherwydd y nifer gyfyngedig o therapyddion sydd ar gael ac oherwydd hyd y driniaeth, mae’n bosib y bydd rhestrau aros hir. Yn ogystal â hynny, mae’n bosib y bydd pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma yn ei chael hi’n anodd ymrwymo i apwyntiadau wythnosol, yn enwedig os ydyn nhw'n gweithio, os oes ymrwymiadau gofal plant gyda nhw neu os ydyn nhw ofni gadael y tŷ ar eu pen eu hunain neu’n ofni mynd i leoedd newydd. Pe bai modd datblygu triniaethau’r un mor effeithiol sy’n cymryd llai o amser, a phe bai modd eu cyflawni i raddau helaeth mewn modd hyblyg yn y cartref, byddai hyn yn gwella hygyrchedd, yn lleihau amseroedd aros ac felly’n lleihau’r baich afiechyd. Mae hunangymorth dan arweiniad yn gallu mynd i'r afael â'r bwlch hwn.

Rhaglen hunangymorth dan arweiniad yw Spring sy’n darparu Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Mae'n canolbwyntio ar drawma i drin Anhwylder Straen Wedi Trawma ysgafn i gymedrol, a chafodd ei datblygu gan y Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae triniaeth Spring yn cynnwys cyfarfod cychwynnol â therapydd dros fideo am ryw awr er mwyn magu perthynas ac er mwyn disgrifio'r rhaglen a’i hwyth cam/modiwl (gweler y blwch isod).

Cam 1: Dysgu am fy Anhwylder Straen Wedi Trawma – Seico-addysg am yr anhwylder sy’n cael ei chyflwyno gan bedwar actor. Byddan nhw’n disgrifio eu profiad o’r anhwylder o safbwynt pedwar math gwahanol o ddigwyddiad trawmatig.

Cam 2: Ymgyfarwyddo â beth sydd o ‘nghwmpas – Esboniad o’r dull hwn a sut i’w ddefnyddio, yn ogystal â disgrifiadau ac arddangosiadau o ymarferion.

Cam 3: Rheoli fy ngorbryder – Addysg ynghylch ymlacio trwy fideos o dechnegau anadlu dan reolaeth, ymlacio dwfn i’r cyhyrau ac ymlacio trwy ddelweddau.

Cam 4: Hawlio fy mywyd yn ôl – Ail-actifadu ymddygiadol er mwyn helpu unigolion i fynd yn ôl at weithgareddau a wnaed o’r blaen neu i roi cynnig ar weithgareddau newydd.

Cam 5: Dod i delerau â fy nhrawma – Bydd hyn yn darparu rhesymeg dros ddychmygu’r trawma, yn ogystal â naratifau cymeriadau’r pedwar fideo. Bydd y therapydd yn helpu'r cleient i ddechrau ysgrifennu naratif, a bydd y cleient yn cwblhau hwn o bell ac yn ei ddarllen bob dydd am o leiaf 30 munud.

Cam 6: Newid fy meddyliau – Technegau gwybyddol i fynd i'r afael â symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Cam 7: Goresgyn fy nhuedd i osgoi – Gwaith wynebu bywyd go iawn gam wrth gam.

Cam 8: Gofalu amdanaf fi fy hun – Mae'r sesiwn hon yn atgyfnerthu'r hyn gafodd ei ddysgu yn ystod y rhaglen, yn darparu mesurau i atal symptomau rhag dychwelyd ac arweiniad ynghylch beth i'w wneud os bydd hynny’n digwydd.

 

Ar ôl y cyfarfod cychwynnol, bydd pedair sesiwn arall bob pythefnos, fydd yn para 30 munud yr un. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y rhyngrwyd neu dros y ffôn yn unol â dewis y cleient.  Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ym mhob sesiwn er mwyn tywys y cleient trwy'r camau ar y cyflymder priodol.  Ym mhob sesiwn, bydd y therapydd yn adolygu’r cynnydd ac yn tywys y cleient trwy'r rhaglen. Nod y canllaw yw cynnig cymorth parhaus, gwaith monitro a chymhelliannau, yn ogystal â datrys problemau. 

Mae Spring wedi helpu pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma mewn treialon clinigol, ac erbyn hyn mae’n cael ei chyflwyno yng Nghymru fel rhan o brosiect gwella ansawdd gan Straen Trawmatig Cymru.  Hefyd, mae Straen Trawmatig Cymru yn cydweithredu â Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd er mwyn datblygu a gwerthuso ymyriadau hunangymorth dan arweiniad ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) ac Anhwylder Galar Estynedig.