Neidio i'r prif gynnwy

Trin a gwella

Mae triniaethau seicolegol a ffarmacolegol effeithiol ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai’r driniaeth fwyaf effeithiol yw triniaethau seicolegol sy'n canolbwyntio ar helpu'r meddwl i brosesu'r digwyddiad trawmatig yn llawn. 

Mae'r daflen hon CLMG: ASWT (PTSD) yn rhoi trosolwg o Anhwylder Straen Wedi Trawma a sut i’w drin.

Clare Crole-Rees yw Arweinydd Therapïau Seicolegol Straen Trawmatig Cymru. Dyma hi'n esbonio mwy am driniaethau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma. [fideo i ddilyn]

Mae triniaethau tebyg yn gallu bod yn effeithiol ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth, ond yn aml, mae pobl gyda’r anhwylder hwn hefyd yn elwa ar driniaethau sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i reoli eu hemosiynau a’u perthynas yn fwy effeithiol.

I bobl gyda Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth, mae datblygu ffyrdd o ymlacio’n well a theimlo'n fwy sefydlog yn aml yn ddefnyddiol iawn. 

Mae rhai mathau o foddion yn gallu helpu pobl gyda’r anhwylderau hyn, ond mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad ydyn nhw mor effeithiol â thriniaethau seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma.  Yn ôl tystiolaeth, y mathau o foddion sydd orau ar gyfer trin Anhwylder Straen Wedi Trawma yw fluoxetine, paroxetine, sertraline, venlafaxine, quetiapine and prazosin.  Mae'r pedwar cyntaf yn cael eu defnyddio'n aml i drin iselder hefyd.