Mae pobl yn ymateb i ddigwyddiadau trawmatig mewn sawl ffordd wahanol a does dim un ymateb "normal" i ddigwyddiad trawmatig. Fydd rhai pobl ddim yn ofidus o gwbl, bydd eraill yn ofidus iawn i ddechrau ac yn gwella'n gyflym, bydd eraill yn ofidus iawn i ddechrau ac yn parhau i fod yn ofidus iawn, a fydd eraill ddim yn ofidus i ddechrau ond yn mynd yn fwy gofidus wrth i amser fynd yn ei flaen. Bydd trallod pobl eraill yn amrywio dros amser.
Mae'n bwysig iawn cofio na fydd y rhan fwyaf o bobl yn datblygu cyflwr iechyd meddwl ar ôl digwyddiad trawmatig, ond bydd lleiafrif yn ei ddatblygu. Nid Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) yw'r unig gyflyrau iechyd meddwl sy'n datblygu ar ôl digwyddiadau trawmatig. Ymhlith cyflyrau cyffredin eraill mae gorbryder, iselder, mathau o ffobia ac anhwylderau camddefnyddio sylweddau.
Mae’r rhain yn gallu datblygu ar ôl i unigolion gael profiad o ddigwyddiad trawmatig, fel damwain ddifrifol, neu brofiad o drawma dros gyfnod o amser, fel achos o gam-drin plant. Mae Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth yn fwy cyffredin ar ôl cyfnod hir o drawma neu sawl digwyddiad trawmatig.
Symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma yw ail-ymweld â’r sefyllfa (hunllefau ac ôl-fflachiadau), osgoi (meddyliau a phethau sy’n atgoffa am y digwyddiad) a bod yn fwy cynhyrfus (h.y. bod yn ofalus iawn ac ar bigau’r draen). Yn ogystal â’r symptomau hyn, mae pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth yn cael anawsterau wrth reoli eu hemosiynau, yn meddwl amdanyn nhw eu hunain yn negyddol ac yn cael anawsterau wrth feithrin perthynas â phobl eraill.
Yn aml, bydd y ddau gyflwr hyn yn cyd-fynd â chyflyrau iechyd meddwl eraill, fel y rheiny sydd wedi eu rhestru uchod.
Ar unrhyw adeg, mae Anhwylder Straen Wedi Trawma gyda hyd at 3% o oedolion. Mae'r gyfradd hon ddwywaith yn uwch ymhlith rheiny sydd wedi cael profiad o ddigwyddiadau trawmatig mawr, ac mae rhai achosion o drawma’n fwy cysylltiedig ag Anhwylder Straen Wedi Trawma nag eraill. Er enghraifft, mae mwy na 50% o oroeswyr trais rhywiol wedi dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma o ganlyniad i'w profiad trawmatig. Mae Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth ychydig yn fwy cyffredin nag Anhwylder Straen Wedi Trawma.