Mae profiadau trawmatig yn gallu arwain at emosiynau cryf ac ymatebion corfforol cryf ymysg plant a phobl ifanc. Gallai hyn gynnwys teimladau llethol o ofn, braw ac o fod yn ddi-help, ynghyd â symptomau seicolegol annymunol gorbryder a phanig eithafol.
O weld y rhain drwy "lens trawma", mae'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiadau hyn yn ymatebion dealladwy i ddigwyddiadau trawmatig, sef ymdrechion plentyn i oroesi a cheisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau sydd yn aml yn frawychus ac yn ddryslyd.
Gall ymatebion i ddigwyddiadau trawmatig fod yn wahanol a gallan nhw amrywio o ymatebion straen trawmatig cymharol ysgafn i ddifrifol. Bydd llawer yn gwella gyda chymorth a chefnogaeth teulu, ffrindiau a'r gymuned. Gall babanod, plant bach, plant a phobl ifanc ddatblygu ymatebion i straen trawmatig a gall yr ymatebion hyn amrywio yn dibynnu ar oedran a lefel ddatblygiadol y plentyn. Gall straen trawmatig effeithio'n sylfaenol ar fywyd pob dydd plentyn a'i allu i weithredu. Gall ymatebion i straen trawmatig amrywio ac maen nhw’n wahanol ymysg babanod ifanc iawn, plant a phobl ifanc (gweler y tab Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)/Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD)). Mae’r canlynol yn gallu bod yn ymatebion yn sgil gweld neu gael profiad o ddigwyddiadau trawmatig.
Mae ymatebion i ddigwyddiadau trawmatig yn gallu amrywio o fod yn gymharol fach ac ysgafn i fod yn ddifrifol, ac maen nhw’n gallu effeithio ar iechyd meddwl, ymddygiad, gweithrediad cymdeithasol ac addysgol, ac ar iechyd a lles corfforol.
Mae dau ddiagnosis iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â phrofi digwyddiadau trawmatig, sef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) (Am ragor o wybodaeth am y rhain, gweler y tab Adnoddau)
Mae’n bosib bod anawsterau iechyd meddwl eraill yn bodoli hefyd, gan gynnwys gorbryder, iselder a galar estynedig. Mae’n bosib y bydd y risg o hunan-niweidio a hunanladd yn uwch.
Mae’n bosib bod problemau eraill o ran ymddygiad hefyd, fel ymddygiadau heriog neu wrthwynebol ac anhwylder ymddygiad.
Efallai y bydd hyn yn effeithio ar weithrediad cymdeithasol. Mae 1 o bob 2 berson ifanc iau na 18 oed gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma yn wynebu arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Dydy 1 o bob 4 o bobl ifanc gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae llawer o blant ifanc sydd wedi dioddef trawma’n dioddef o symptomau corfforol, fel pen tost a stumog dost, ac mae astudiaethau'n nodi cynnydd yn y risg o ddatblygu anhwylderau bwyta, poen cronig a phroblemau cyhyrysgerbydol.
Mae trawma’n gallu cael effaith hirdymor.
Mae rhai pobl ifanc sydd wedi cael profiadau trawmatig yn wynebu mwy o berygl o gael problemau iechyd meddwl yn ddiweddarach yn eu bywyd, yn ogystal â phroblemau iechyd corfforol, anawsterau o ran eu perthnasoedd ac maen nhw’n fwy tebygol o gael profiadau ymosodol pellach.
Fydd pawb sydd wedi gweld digwyddiad(au) trawmatig ddim yn datblygu symptomau straen trawmatig. Bydd llawer yn gwella gyda chymorth a chefnogaeth gan deulu, ffrindiau a'r gymuned, ac mae perthnasoedd rhagweladwy, diogel a meithringar yn hanfodol bwysig.
Mae pob cyswllt â baban, plentyn neu berson ifanc, waeth pa mor fyr, yn gyfle gwerthfawr i gael effaith gadarnhaol ar allu plentyn i wella. Mae cyfleoedd lu bob dydd i effeithio’n gadarnhaol ar les emosiynol plentyn neu berson ifanc ac i helpu i feithrin gwydnwch a’i helpu i wella.
Mae'n bwysig gwybod pryd i ofyn am gymorth a sut i gael cymorth pwrpasol neu arbenigol ychwanegol er mwyn helpu i wella (gweler y tab ‘Cael cymorth’ am fwy o wybodaeth)