Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19

Beth yw’r effeithiau tebygol ar iechyd meddwl yn sgil argyfwng COVID-19?

Mae argyfwng COVID-19 yn heriol i bawb, a bydd pobl yn ymateb yn wahanol i’w profiadau.  Ymhlith y ffyrdd tebygol o ymateb bydd emosiynau cadarnhaol fel gobaith a theimlad o agosatrwydd ag eraill, ynghyd ag emosiynau negyddol fel gorbryder a hwyliau isel.  Bydd rhai pobl yn debygol o ddatblygu ymatebion mwy difrifol, gan gynnwys galar, gorbryder, iselder ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Fydd argyfwng COVID-19 yn achosi Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)?

Fydd y rhan fwyaf o bobl ddim yn debygol o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma nac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) oherwydd argyfwng COVID-19, ond bydd rhai pobl yn datblygu’r rhain.  I lawer o bobl, fydd y profiad trawmatig ddim yn cynnwys achos gwirioneddol o farwolaeth, anaf difrifol, neu drais rhywiol, neu fygythiad o’r rhain (meini prawf gorfodol ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma yw’r rhain).  Fodd bynnag, bydd yn cynnwys profiadau eraill allai beri straen a thrallod, fel arwahanu cymdeithasol, gwarchod (“shielding”), colled ariannol, colli swydd a bod yn agored i sefyllfaoedd allai arwain at haint. 

Bydd rhai pobl yn agored i brofiadau trawmatig iawn yn ystod argyfwng COVID-19, yn enwedig bygythiad i fywyd ac achos gwirioneddol o farwolaeth, a byddan nhw’n datblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma o ganlyniad i hyn.

Pwy sy’n wynebu’r risg uchaf o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)?

Y ffactor sydd fwyaf tebygol o gynyddu risg pobl o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma yw profiad mwy trawmatig yn ystod yr argyfwng.  Er enghraifft, bydd pobl sydd wedi bod yn sâl iawn, neu y mae perthynas iddynt wedi bod yn sâl iawn neu wedi marw, yn wynebu mwy o berygl.  Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen hefyd yn debygol o fod mewn mwy o berygl gan eu bod yn agored i ddigwyddiadau trawmatig iawn yn rhan o'u gwaith.

Yn ogystal â natur y profiad, mae ffactorau eraill sy'n debygol o gynyddu'r risg o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma’n cynnwys anawsterau iechyd meddwl blaenorol, anawsterau delio â sefyllfaoedd sy’n achosi straen yn gyffredinol ac, yn bwysig iawn, y teimlad o beidio â chael cymorth cymdeithasol.

Oes triniaethau ar gael os bydda i’n datblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i COVID-19?

Mae amrywiaeth eang o wahanol ymyriadau a thriniaethau ar gael i bobl sy'n datblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma a chyflyrau eraill o ganlyniad i COVID-19.  Mae dolenni defnyddiol ar gyfer hyn i’w gweld yma: Taflenni’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)

Oes modd atal canlyniadau iechyd meddwl negyddol oherwydd COVID-19?

Mae modd cymryd nifer o gamau cadarnhaol iawn i leihau'r risg o ddatblygu canlyniadau iechyd meddwl negyddol ar ôl digwyddiadau trawmatig.  Mae'r rhain yn cynnwys bwyta'n iach, cynnal perthnasoedd cymdeithasol, ymarfer corff yn rheolaidd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eich helpu i ymlacio. 

Y Sefydliad Iechyd Meddwl: Gofalu am eich iechyd meddwl
Mind: Gwybodaeth am gymorth (Saesneg)
National Centre for PTSD in the USA: Self Help & Coping (Saesneg)

Sut dylwn i roi cymorth i blant a phobl ifanc?

Y Sefydliad Iechyd Meddwl: Siarad â phlant
MIND: Cymorth i blant a phobl ifanc – gwybodaeth ddefnyddiol sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. 

The National Child Traumatic Stress Network in the USA: NCTSN: Parent/Caregiver Guide (Saesneg) – cyngor defnyddiol.

ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi creu llyfr i rieni/gofalwyr/athrawon ei ddarllen i blant 6-11 oed WHO: Ti yw fy arwres