Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yw un o ganolfannau ymchwil cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r Ganolfan yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o’r radd flaenaf o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor i ddysgu mwy am beth sy'n achosi problemau iechyd meddwl, a hynny o'n hamgylchedd a’n profiadau, i'n geneteg a'n cyfansoddiad biolegol. Nod y Ganolfan yw helpu i wella’r gwaith o roi diagnosis, triniaeth a chymorth i'r miliynau o bobl sy'n dioddef salwch meddwl bob blwyddyn, yn ogystal â mynd i'r afael â'r stigma mae llawer o bobl yn ei wynebu.
https://cymraeg.ncmh.info/about-us/
Mae Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r Ganolfan, a dau o'r cyflyrau craidd mae ymchwil y Ganolfan yn canolbwyntio arnynt yw Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD). Mae Straen Trawmatig Cymru’n gweithio'n agos â’r Ganolfan er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil a datblygu’n rhan ganolog o'r fenter. Bydd pobl gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth, sy'n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru, yn cael gwahoddiad i ymuno â'r Ganolfan, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith o ddeall natur ac achosion y ddau anhwylder a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu triniaethau newydd. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i bobl gyda’r ddau anhwylder ledled Cymru gymryd rhan mewn treialon ymchwil, er enghraifft ymyriadau newydd allai wella canlyniadau.
https://cymraeg.ncmh.info/conditions-we-study/post-traumatic-stress-disorder-ptsd/