Arweiniodd aelodau o dîm Straen Trawmatig Cymru ymchwil a edrychodd ar effeithiolrwydd meddyginiaethau wrth drin PTSD a chanfuwyd bod tystiolaeth dda i argymell y cyffuriau gwrth-iselder paroxetine, fluoxetine, sertraline a venlafaxine, yn ogystal â meddyginiaethau eraill gan gynnwys quetiapine, risperidone, prazosin, mirtazapine , amitriptyline a phenelzine. Helpodd yr ymchwil hwn i lywio canllawiau triniaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Straen Trawmatig (ISTSS).
Er mwyn helpu meddygon ymhellach i ddefnyddio’r ymchwil hwn i helpu pobl sydd â PTSD, rydym wedi datblygu Algorithm Rhagnodi Caerdydd ar gyfer PTSD, sydd ar gael yma: https://www.rcpsych.ac.uk/docs/default-source/members/faculties/liaison-psychiatry /ptsd-prescribing-algorithm.pdf?sfvrsn=a9ba936e_2
CYCHWYN PRAZOSIN
Mae'r tabl isod yn disgrifio'r dosau o prazosin i'w rhagnodi a'r amserau y dylid eu cymryd ar gyfer unigolyn nad yw'n profi unrhyw sgil effeithiau problematig. Os profir sgil effeithiau problemus, dylai meddyg wneud penderfyniad clinigol i benderfynu a ddylid cadw'r dos yr un fath, ei leihau neu a ddylid atal y prazosin.
Gan fod risg o isbwysedd dos cyntaf difrifol, dylid cymryd y dos cyntaf a'r ail ddos tra'n eistedd ar wely ychydig cyn gorwedd. Mae'n bwysig eich bod wedi yfed digon wrth gymryd prazosin a chodi'n araf - eistedd ar y gwely i ddechrau ac yna sefyll yn araf. Am y ddwy noson gyntaf mae'n bwysig eistedd ar y toiled i basio dŵr yn hytrach na sefyll i fyny.
Amser |
Bore |
Wrth fynd i'r gwely |
Diwrnodau 1-2 |
Dim |
1mg |
Diwrnodau 3-7 |
Dim |
2mg |
Wythnos 2 |
1mg |
4mg |
Wythnos 3 |
2mg |
6mg |
Wythnos 4 |
2mg |
10mg |