Trawma yn ystod plentyndod
Beth yw digwyddiadau trawmatig?
Mae llawer o fathau o ddigwyddiadau trawmatig. Gallai’r rhain fod yn ddigwyddiadau untro neu'n ddigwyddiadau rheolaidd.
Yn ystod plentyndod, mae digwyddiadau trawmatig yn digwydd pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc yn gweld neu’n cael profiad o farwolaeth, digwyddiad y bu bron iddo arwain at farwolaeth, anaf difrifol neu drais rhywiol.
Gallai’r digwyddiad fod yn drychineb naturiol neu ddamweiniol, yn rhyfel, yn derfysgaeth, yn ymosodiad corfforol neu’n unrhyw fath o achos o esgeuluso neu gam-drin plant. Mae marwolaeth sydyn anwylyd, trais ac ymosodiad rhywiol (gan gynnwys masnachu), trawma ffoaduriaid ac aelod o’r teulu’n diflannu, colled sy’n ymwneud â theulu milwrol (fel pan fydd aelod o’r teulu’n gadael i wasanaethu yn y fyddin, neu pan fydd rhiant yn marw neu’n cael ei anafu), i gyd yn gallu bod yn ddigwyddiadau trawmatig.
Mae’n bosib ystyried y rhain yn ddigwyddiadau trawmatig hefyd: achos personol neu deuluol o gamddefnyddio sylweddau, trais mewn teuluoedd a chymunedau ac anafiadau damweiniol difrifol, gan gynnwys damweiniau traffig ar y ffordd, achosion o foddi, llosgi neu gwympo.
Hefyd, mae’n bosib cael profiad o ddigwyddiadau trawmatig trwy wrando ar brofiadau trawmatig pobl eraill (enw arall ar hyn yw trawma eilaidd, trawma mechnïol neu flinder tosturi).
Y digwyddiadau trawmatig sy’n tueddu i gael y canlyniadau negyddol mwyaf yw’r rheiny sy’n gysylltiedig â thrawma rhyngbersonol (o berson i berson) neu drawma bwriadol. Mae hyn yn cynnwys cam-drin ac esgeuluso yn ystod plentyndod.
Enw arall ar ddigwyddiadau/profiadau trawmatig rheolaidd dros gyfnod hir yn ystod plentyndod cynnar yw trawma cymhleth neu drawma datblygiadol. Termau yw’r rhain sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio’r math o ddigwyddiadau trawmatig. Dydyn nhw ddim yn fathau o ddiagnosis.
Fel arfer, mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau’n digwydd ymhlith perthnasoedd presennol plentyn ac ar adeg pan fydd yr ymennydd ifanc yn datblygu. Enghreifftiau o hyn yw cam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol, esgeulustod, colled neu achos o adael plentyn. Ymhlith enghreifftiau eraill, mae’r rheiny allai ddigwydd yn sgil profiad cronig, rheolaidd a difrifol o drais cymunedol, trawma hiliol, trawma ffoaduriaid neu drawma rhyfel. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfres o amgylchiadau rheolaidd, o berson i berson, a phan na fydd anghenion emosiynol baban neu blentyn yn cael eu diwallu.
Mae profiadau trawmatig yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod 4 blynedd gyntaf bywyd plentyn yn gallu effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd a chael effaith sylweddol ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ddiweddarach. Gall yr effeithiau hyn barhau yn ystod bywyd fel oedolyn hefyd. Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r ymennydd yn datblygu fel arfer, yn ogystal ag effaith trawma arno wrth iddo ddatblygu.
Mae profi digwyddiadau trawmatig rheolaidd dros gyfnod hir yn gallu effeithio ar berthnasoedd a datblygiad hunaniaeth bersonol
Pan fydd baban neu blentyn yn cael ei fagu mewn amgylchedd o ofn ac esgeulustod, bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar ei allu i greu perthnasoedd ag oedolion priodol a diogel yn y dyfodol. Mae’n effeithio hefyd ar ei allu i ddatblygu hunaniaeth bersonol (sef ymdeimlad o bwy ydyn ni, pa fath o berson ydyn ni ac o le rydyn ni’n dod). Mae’n bosib na fydd barn gadarnhaol ohonyn nhw eu hunain gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi cael profiad o drawma, a gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y ffordd maen nhw’n meddwl, eu hymddygiad a’u penderfyniadau mewn bywyd.
Mae profiadau o drawma’n gyffredin
Mae 1 o bob 3 o blant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr wedi cael profiad trawmatig cyn troi’n 18 oed, ac mae 1 o bob 4 o’r rheiny wedi datblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) erbyn 18 oed.
Ymatebion i straen trawmatig
Mae profiadau trawmatig yn gallu arwain at emosiynau cryf ac ymatebion corfforol cryf ymysg plant a phobl ifanc. Gallai hyn gynnwys teimladau llethol o ofn, braw ac o fod yn ddi-help, ynghyd â symptomau seicolegol annymunol gorbryder a phanig eithafol.
O weld y rhain drwy "lens trawma", mae'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiadau hyn yn ymatebion dealladwy i ddigwyddiadau trawmatig, sef ymdrechion plentyn i oroesi a cheisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau sydd yn aml yn frawychus ac yn ddryslyd.
Gall ymatebion i ddigwyddiadau trawmatig fod yn wahanol a gallan nhw amrywio o ymatebion straen trawmatig cymharol ysgafn i ddifrifol. Bydd llawer yn gwella gyda chymorth a chefnogaeth teulu, ffrindiau a'r gymuned. Gall babanod, plant bach, plant a phobl ifanc ddatblygu ymatebion i straen trawmatig a gall yr ymatebion hyn amrywio yn dibynnu ar oedran a lefel ddatblygiadol y plentyn. Gall straen trawmatig effeithio'n sylfaenol ar fywyd pob dydd plentyn a'i allu i weithredu. Gall ymatebion i straen trawmatig amrywio ac maen nhw’n wahanol ymysg babanod ifanc iawn, plant a phobl ifanc (gweler y ddolen). Mae’r canlynol yn gallu bod yn ymatebion yn sgil gweld neu gael profiad o ddigwyddiadau trawmatig.
Mae ymatebion i ddigwyddiadau trawmatig yn gallu amrywio o fod yn gymharol fach ac ysgafn i fod yn ddifrifol, ac maen nhw’n gallu effeithio ar iechyd meddwl, ymddygiad, gweithrediad cymdeithasol ac addysgol, ac ar iechyd a lles corfforol.
Iechyd meddwl
Mae dau ddiagnosis iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â phrofi digwyddiadau trawmatig, sef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (CPTSD) – gweler y ddolen. Mae’n bosib bod anawsterau iechyd meddwl eraill yn bodoli hefyd, gan gynnwys gorbryder, iselder a galar estynedig. Gall y risg o hunan-niweidio a hunanladdiad fod yn uwch.
Ymddygiad
Mae’n bosib bod problemau eraill o ran ymddygiad hefyd, fel ymddygiadau heriog neu wrthwynebol ac anhwylder ymddygiad.
Gweithrediad cymdeithasol ac addysgol
Mae hyn yn gallu effeithio ar weithrediad cymdeithasol. Mae 1 o bob 2 berson ifanc iau na 18 oed gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma yn wynebu arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Dydy 1 o bob 4 o bobl ifanc gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Iechyd corfforol
Mae llawer o blant ifanc sydd wedi dioddef trawma’n dioddef o symptomau corfforol, fel pen tost a stumog dost, ac mae astudiaethau'n nodi cynnydd yn y risg o ddatblygu anhwylderau bwyta, poen cronig a phroblemau cyhyrysgerbydol.
Mae trawma’n gallu cael effaith hirdymor.
Mae rhai pobl ifanc sydd wedi cael profiadau trawmatig yn wynebu mwy o berygl o gael problemau iechyd meddwl yn ddiweddarach yn eu bywyd, yn ogystal â phroblemau iechyd corfforol, anawsterau o ran eu perthnasoedd ac maen nhw’n fwy tebygol o gael profiadau ymosodol pellach.
Mae gwella ar ôl trawma’n gyffredin ac yn bosib
Fydd pawb sydd wedi gweld digwyddiad(au) trawmatig ddim yn datblygu symptomau straen trawmatig. Bydd llawer yn gwella gyda chymorth a chefnogaeth gan deulu, ffrindiau a'r gymuned, ac mae perthnasoedd rhagweladwy, diogel a meithringar yn hanfodol bwysig.
Mae pob cyswllt â baban, plentyn neu berson ifanc, waeth pa mor fyr, yn gyfle gwerthfawr i gael effaith gadarnhaol ar allu plentyn i wella. Mae cyfleoedd lu bob dydd i effeithio’n gadarnhaol ar les emosiynol plentyn neu berson ifanc ac i helpu i feithrin gwydnwch a’i helpu i wella.
Pryd a sut i ofyn am gymorth
Mae'n bwysig gwybod pryd i ofyn am gymorth a sut i gael cymorth pwrpasol neu arbenigol ychwanegol er mwyn helpu i wella (gweler y ddolen).